|
Post by BereniceUK on May 2, 2017 17:16:27 GMT
MARWOLAETH AR FAES Y GAD. - Bydd yn flin gan lawer glywed am farwolaeth Mr. Johnny D. Williams, mab hoff Mr. a Mrs. Williams, Great Percy Street, Llundain, gynt o Goginan, a brawd i Mrs. Jonathan, Mornington House. Ymunodd yr ymadawedig a'r Remington Scouts yn mis Mawrth diweddaf, ac wedi ymladd llawer brwydr, ac enill llawer buddugoliaeth i'w wlad, bu farw o'r enteric fever yn Standerton, Deheu Affrica, Ionawr 4ydd, yn 22ain oed. Arferai dreuho ei wyliau yma bob hai, ac enillodd barch ac edmygedd y trigolion fel bachgen o gymeriad pur a dirhodres. Nawdd y nef at y teulu yn en galar dwys.
Ergyd trwm idd ei rieni, Oedd ei golli ef fel hyn; Heb in cyfle i weinyddu, Arno yn nghysgodau'r glyn.
Heb gyfleusdra i ffarwelio Ac i ysgwyd llaw ag ef, Pan o faes y gad 'n 'mado, Am heddychol faes y nef.
Balm i'w clwy f'ai cael eneinio, 'I feddrod ef mewn estron wlad, Gyda'r dagrau sydd yn treiglo O galonau mam a thad.
A chael planu lili hyfryd At ei gysegredig fedd; I arwyddo swyn ei fywyd, A thlysineb byw ei wedd.
Sued yr awelon effro, Wrth fynd heibio Salmau hedd; Engyl nefoedd fyddo'n gwylio Yn warcheidiol dros ei fedd.
CYFAILL.
(Welsh Gazette and West Wales Advertiser, Thursday 16th January 1902)
|
|